Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn paratoi i ddechrau ar gynllun buddsoddi ar y rhwydwaith dŵr yfed yn Sandy Haven ar y 26ain o Fedi.
‘Rydym am ddisodli hen bibellau dŵr a gosod rhai plastig newydd yn eu lle, fydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i dderbyn cyflenwad dŵr dibynadwy ac o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.
Fe ddywedodd Graham Hughes, rheolwr dosbarthu Dŵr Cymru Welsh Water: “’Rydym am fod yn gweithio yn y gymuned hon am gryn amser gan fod arnom angen newid 1.2 cilometr o brif bibellau dŵr o Dale Road i Quay Cottage, ac ‘rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cymryd oddeutu tri mis i’w gwblhau.
“’Rydym wedi gohirio dechrau’r cynllun hwn, fel ein bod wedi gallu osgoi tymor prysur gwyliau’r haf, a pheidio â bod yn niwsans, gan fod cymaint o ymwelwyr yn yr ardal. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith adnewyddu hwn, ac felly yn awr ‘rydym am fwrw ymlaen â’r gwaith a’i gwblhau. ‘Rydym yn deall nad oes neb yn hoff o waith ffordd, ond os mai yn y fan honno mae’r pibellau wedi’u gosod, nid oes gennym ddewis ond eu newid nhw yno.
“Er mwyn gweithio’n gyflym a diogel, ‘rydym yn mynd i orfod cau darn o’r ffordd oddi ar Dale Road, sy’n arwain at Fferm Skerryback drwy gydol y cynllun.